AR Chwefror 14 ac 15, cynhaliwyd rownd sirol cystadleuaeth cwis llyfrau yn Theatr Twm o’r Nant, Dinbych.

Roedd rhaid i’r timau drafod yn gyntaf llyfr o’r rhestr dewisedig, cyn mynd ati wedyn i roi cyflwyniad theatrig ar lyfr arall, pwrpas y cyflwyniad ydy annog eraill i ddarllen y llyfrau.

Cafwyd gwledd o berfformiadau gyda llond llwyfan o blant a phrops o bob math yn ychwanegu at eu perfformiadau byrlymus.

Rhaid llongyfarch yr ysgolion i gyd am gymryd rhan a gwneud eu gwaith mor dda ac i’r athrawon a fu yn eu hyfforddi.

Ysgol Pant Pastynog a ddaeth i’r brig yn adran Blwyddyn 3 a 4 ac Ysgol Pen Barras a orfu yn adran 5 a 6.

Mi fydd y ddwy ysgol yma yn mynd ymlaen rwan i Aberystwyth ym mis Mehefin i’r rownd derfynol.

Yr ysgolion eraill a gymerodd ran oedd Twm o’r Nant, Henllan, Dewi Sant y Rhyl, Y Llys Prestatyn, Bro Elwern Gwyddelwern a Ysgol Betws Gwerful Goch.

Trefnwyd y cyfan gan adran cefnogi’r Gymraeg Sir Ddinbych.